CYNHADLEDD ARDDANGOS PRIF SWYDDOG NYRSIO CYMRU
CYMRU A'R BYD

18 a 19 Mehefin 2008,
Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Rosemary Kennedy - Chief Nursing Officer for Wales

CYMRU A'R BYD

Caiff Cynhadledd Arddangos Prif Swyddog Nyrsio Cymru ei chydnabod yn eang fel llwyfan allweddol ar gyfer hyrwyddo a rhannu arferion gorau yn y meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol. Mae'n ddigwyddiad na ellir ei golli! Roedd cynhadledd 2006 yn hynod boblogaidd, ac felly dylech gofrestru'n gynnar er mwyn cadw'ch lle.

Y themâu ar gyfer y gynhadledd eleni yw "Cymru yn y Byd", "Y Byd yng Nghymru" ac "Arwain a Dysgu". Eu diben yw dangos sut y mae nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol yng Nghymru wedi dylanwadu ar ofal sy'n canolbwyntio ar y cleifion ac ar y gwaith o ddatblygu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt. Rwy'n sicr y cewch eich ysbrydoli gan fentrau eich cydweithwyr.

Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir bob dwy flynedd, yn gyfle da i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Bydd gweithwyr ar bob lefel yn y proffesiwn yn elwa ar y profiad a bydd yn eich helpu i fodloni gofynion eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ceir y manylion llawn, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru, ar y wefan hon.

Edrychaf ymlaen at eich gweld ym mis Mehefin!

Rosemary Kennedy's signature

Mrs Rosemary Kennedy
Prif Swyddog Nyrsio Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru