Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2008
CYMRU A'R BYD
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
18 - 19 Mehefin 2008
GWYBODAETH
LLWYTHO'R WYBODAETH HON AR FFURF PDF.
Dyddiadau'r Gynhadledd
Dydd Mercher, 18 a dydd Iau 19 Mehefin 2008
Lleoliad
Neuadd y Ddinas
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ND
Am fwy o fanylion am y lleoliad, gan gynnwys cyfarwyddiadau, ewch i'r dudalen GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD.
Amserau'r gynhadledd
Bydd y gynhadledd yn rhedeg o 11:30 ar y dydd Mercher tan 15:05 ar y dydd Iau. Ewch i dudalen y RHAGLEN am fanylion diweddaraf y rhaglen.
Derbyniad A Chinio'r Gynhadledd
Bydd derbyniad gyda diodydd yn y Neuadd Farmor ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas o 7 o'r gloch nos Fercher, 18 Mehefin, gyda chinio tri chwrs i ddilyn. Gofynnir ichi wisgo'n smart anffurfiol / siwt deidi ar gyfer y derbyniad a'r cinio.
Sut i gofrestru
I gofrestru ar gyfer y gynhadledd, ewch i'r dudalen COFRESTRU. Anfonir cadarnhad cofrestru ac anfoneb atoch.
Ffi / anfoneb y gynhadledd
I gael mynediad i'r gynhadledd, rhaid talu ymlaen llaw. Nodir ffïoedd y gynhadledd isod:
| Digwyddiad llawn (dau ddiwrnod gan gynnwys cinio canol dydd a chinio'r gynhadledd) | £293.75 (£250 + TAW) |
| Un diwrnod yn unig (y naill ddiwrnod neu'r llall gan gynnwys cinio canol dydd) | £146.88 (£125 + TAW) |
| Cinio'r gynhadledd | £47.00 (£40 + TAW) |
Noder - caiff mynychwyr sy'n cyflwyno papur mewn un o'r sesiynau cydamserol ostyngiad o 20% oddi ar ffi'r gynhadledd a chaiff mynychwyr sy'n cyflwyno poster ostyngiad o 10%.
Gellir talu drwy siec, archeb bost neu drosglwyddiad banc. Derbynnir taliadau cerdyn Credyd / Debyd hefyd ond codir tâl gweinyddu o 3.5%
Sesiynau cydamserol
Cewch gyfle i fynychu chwe sesiwn gydamserol yn ystod y gynhadledd.
Mae manylion llawn y sesiynau cydamserol yn cael eu ffurfio ar hyn o bryd. Caiff manylion llawn y sesiynau a sut i'w harchebu eu dosbarthu i fynychwyr sydd wedi cofrestru ddechrau mis Ebrill.
Gwestai
Ar hyn o bryd rydym yn cadw nifer o ystafelloedd mewn amrywiaeth o westai yng Nghaerdydd ar nos Fercher 18fed Mehefin. Mae'r ystafelloedd hyn ar gael, am gyfraddau gostyngol, ar sail 'y cyntaf i'r felin gaiff falu'.
Ewch i'r adran LLETY ar y wefan hon am fanylion pellach.
Mynychwyr â gofynion penodol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru'n dymuno cynnig cynhadledd gwbl hygyrch. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol sy'n gysylltiedig, er enghraifft, â golwg, clyw, symudedd, mynediad neu ddeiet arbennig, ticiwch y blwch priodol wrth gwblhau'r ffurflen gofrestru a bydd trefnwyr y gynhadledd, Glasgows, yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau perthnasol.
Polisi canslo
Os bydd angen i chi ganslo'ch lle yn y gynhadledd, rhaid hysbysu'r trefnwyr, Glasgows, yn ysgrifenedig (mae ebost yn dderbyniol).
Darperir ad-daliad llawn hyd at 3 cyn y gynhadledd. Darperir ad-daliad o 50% hyd at fis cyn y gynhadledd. Ni ddarperir unrhyw ad-daliad o fewn mis i'r gynhadledd.
Derbynnir mynychwyr amnewid. Dylid cyflwyno manylion cyswllt llawn mynychwyr amnewid i Glasgows wrth ganslo.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd, dylid CYSYLLTU Â'R TREFNWYR, Glasgows, gan ddyfynnu 'CNO for Wales Showcase Conference'