Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2008
CYMRU A'R BYD

Neuadd y Ddinas, Caerdydd
18 - 19 Mehefin 2008

COFRESTRU AR GYFER Y GYNHADLEDD

Mae trefniadau cofrestru mynychwyr ar agor nawr.

I gofrestru ar gyfer y gynhadledd, cliciwch y cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Unwaith i chi gyflwyno'ch cofrestriad, anfonir cadarnhad cofrestru ac anfoneb atoch.

FFI / ANFONEB Y GYNHADLEDD

I gael mynediad i'r gynhadledd, rhaid talu ymlaen llaw. Nodir ffïoedd y gynhadledd isod:

Digwyddiad llawn (dau ddiwrnod gan gynnwys cinio canol dydd a chinio'r gynhadledd) £293.75
(£250 + TAW)
Un diwrnod yn unig (y naill ddiwrnod neu'r llall gan gynnwys cinio canol dydd) £146.88
(£125 + TAW)
Cinio'r gynhadledd £47.00
(£40 + TAW)

Noder – caiff mynychwyr sy'n cyflwyno papur mewn un o'r sesiynau cydamserol ostyngiad o 20% oddi ar ffi'r gynhadledd a chaiff mynychwyr sy'n cyflwyno poster ostyngiad o 10%.

Gellir talu drwy siec, archeb bost neu drosglwyddiad banc. Derbynnir taliadau cerdyn Credyd / Debyd hefyd ond codir tâl gweinyddu o 3.5%

CYFARWYDDIADAU YMUNO

Anfonir cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer y gynhadledd at fynychwyr sydd wedi talu ryw dair wythnos cyn y digwyddiad.

COFRESTRU AR GYFER Y DIGWYDDIAD HWN