Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2010
LLEWYRCH Y LLUSERN YNG NGHYMRU

Gwesty a Sba Mercure Holland House Caerdydd
Dydd Iau 13eg a dydd Gwener 14eg Mai 2010

Siaradwyr

Dr ROSEMARY KENNEDY CBE OStJ TD
Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rosemary Kennedy Mae Rosemary Kennedy wedi bod yn ddeiliad nifer o swyddi rheoli uwch amrywiol yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio ar gyfer gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau aciwt yn ogystal â swyddi rheoli cyffredinol. Ei swydd ddiwethaf oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn Ysbyty Addysgu Prifysgol Caergrawnt Ymddiriedolaeth GIG Addenbrookes. Ymunodd Rosemary â’r Gwasanaeth Sifil fel Prif Swyddog Nyrsio i’r Swyddfa Gymreig ar y pryd ddiwedd mis Ionawr 1999. Mae’r swydd hon yn un o bedair swydd Prif Swyddog Nyrsio’r DU sy’n cefnogi gweinyddiaeth y Llywodraeth.

Yr Athro Donna Mead, O.B.E
Athro Nyrsio a Deon Cyfadran Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Morgannwg

Yr Athro Donna Mead, O.B.E Athro Nyrsio a Deon y Gyfadran Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Morgannwg yw Donna Mead. Hi yw Cadeirydd presennol CYNGOR - y fforwm sy’n cynrychioli llais nyrsio ac addysg iechyd cysylltiedig yng Nghymru. Mae hi’n nyrs, addysgwraig ac ymchwilydd brofiadol, ac mae’n dal grant RCBC (Research Capacity Building Collaboration), consortiwm o sefydliadau Addysg Uwch Cymru sy’n darparu cymrodoriaethau PhD ac ol-ddoethuriaeth er mwyn cynyddu gwaith ymchwil a sicrhau paratoi addas ar gyfer gyrfaoedd clinigol academaidd. Mae hi’n un o Gyfarwyddwyr anweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yn 2005 dyfarnwyd iddi gydnabyddiaeth Bwrdd Cymru o Goleg Brenhinol y Nyrsys am lwyddiant nodedig ac yn 2009 dyfarnwyd iddi’r OBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am wasanaethau i ofal iechyd.

Elizabeth Robb, (Doethur Anrhydeddus y Brifysgol) MA. BA (Anrh.) ADM. PGCEA RN. RM.
Prif Weithredwr Sefydliad Florence Nightingale

Elizabeth Robb, (Doethur Anrhydeddus y Brifysgol) MA. BA (Anrh.) ADM. PGCEA RN. RM. Penodwyd Elizabeth Robb yn Brif Weithredwr Sefydliad Florence Nightingale ar 1 Ebrill 2009. Cyn hynny bu Elizabeth Robb yn gweithio dros y 4 blynedd flaenorol fel Cyfarwyddwr Nyrsio a Dirprwy Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Gogledd-orllewin Llundain. Ym mis Tachwedd 2007, fe’i gwnaed hefyd yn Gyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau. Cyn 2005 hi oedd Cyfarwyddwr Nyrsio a Llywodraethu Clinigol a Dirprwy Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Dwyrain Gwlad yr Haf lle’r oedd hi hefyd yn gyfrifol am y camau cyntaf o wneud y cais llwyddiannus i fod yn Ymddiriedolaeth Sefydliad.

Mae Elizabeth yn Nyrs ac yn Fydwraig Gofrestredig ac mae’n parhau i fod wedi cofrestru yn y ddwy ddisgyblaeth. Mae ganddi Ddiploma Uwch mewn Bydwreigiaeth, mae’n Athrawes Bydwragedd Gofrestredig, ac mae’n meddu ar radd anrhydedd mewn Rheolaeth a Gradd Meistr mewn Nyrsio. Enillodd Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Florence Nightingale yn 2006 ac fe’i defnyddiodd ar gyfer cyfleoedd datblygu personol a sefydliadol. Ymunodd Elizabeth a Grwp Ymgynghorol Clinigol Gofal Iechyd Llundain ym mis Rhagfyr 2007 a’r Tim Asesu Clinigol Cenedlaethol yn haf 2008. Mae diddordebau Elizabeth yn cynnwys ail-ddylunio Llwybrau Cleifion a gwella Modelau Gofal, er mwyn gwella ansawdd a chanlyniadau clinigol yn ogystal a datblygu nyrsys a bydwragedd.

Ym mis Mehefin 2008 fe’i gwnaed yn Athro ymweliadol mewn Arweiniad ac Arferion Nyrsio ym Mhrifysgol Southbank, Llundain, ac ym Mehefin 2009 fe’i gwnaed yn gymrawd y Sefydliad Arloesi a Gwella. Cyflwynwyd doethuriaeth anrhydeddus iddi gan Brifysgol Dyffryn Tafwys ym mis Tachwedd 2009.