Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2008
CYMRU A'R BYD

Neuadd y Ddinas, Caerdydd
18 - 19 Mehefin 2008

Cyflwyniad

Cynhelir Cynhadledd Arddangos 2008 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ddydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Mehefin. Llywydd y Gynhadledd fydd Rosemary Kennedy, Prif Swyddog Nyrsio Cymru a chyflwynir y brif araith gan Edwina Hart AC, MBE, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd siaradwyr allweddol eraill yn cynnwys Jeff Evans a Rose Ball (Prifysgol Morgannwg); Yr Athro Sheila Hunt, Deon a Phennaeth yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Prifysgol Caerdydd; a Roswyn Hakesley-Brown CBE.

Thema'r rhaglen ddeuddydd yw Cymru a'r Byd a bydd y cyflwyniadau wedi'u seilio ar dair thema:

Cyhoeddwyd galwad am bapurau ar y thema hon a'r cyflwyniadau llwyddiannus fydd yn darparu'r pynciau ar gyfer gweithdai cydamserol ac arddangosfa bosteri.

Rhagwelir y bydd hyd at 300 o fynychwyr yn y Gynhadledd, gan gynnwys uwch gynrychiolwyr o feysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd cymunedol y cyhoedd.

Y lleoliad

Mae Neuadd y Ddinas Caerdydd yn adeilad godidog iawn ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer arddangos gwaith a chyflawniadau Gwasanaethau Nyrsio yng Nghymru. Y Neuadd Ymgynnull fydd lleoliad y sesiynau llawn, Cinio'r Gynhadledd a'r arddangosfa bosteri; a defnyddir y Neuadd Farmor ar gyfer arlwyo a rhwydweithio drwy gydol y ddau ddiwrnod, gydag ardaloedd wedi'u neilltuo ar gyfer stondinau arddangos. Bydd yr ystafelloedd a ddefnyddir ar gyfer y gweithdai cydamserol yn darparu cyfleoedd ychwanegol i osod stondinau arddangos a/neu ardaloedd arddangos llenyddiaeth.

Y buddion

Mae hwn yn gyfle digynsail i arddangos eich sefydliad ac amlygu'r rôl bwysig y mae ein partneriaid yn ei chwarae wrth gefnogi gwaith y gwasanaethau nyrsio yng Nghymru, er enghraifft drwy :

Brandio : logos / credydau ar lenyddiaeth gysylltiedig, deunydd i fynychwyr, arwyddion a'r llwyfan Amlygrwydd uchel : Gosod eich arddangosiad mewn man amlwg drwy gydol y digwyddiad

Gwasanaeth cludo : Y cyfle i osod deunydd yn y pecyn i fynychwyr neu ar Stondin Lyfrau'r Gynhadledd a leolir wrth ymyl y ddesg gofrestru a gwybodaeth

Darperir enghreifftiau o'r cyfleoedd i noddi'r digwyddiad. Fodd bynnag, buaswn yn croesawu'r cyfle i drafod pecyn wedi'i deilwra i ateb eich amcanion os oes gofynion penodol gan eich sefydliad

Prif Noddwr: £10,000 + TAW

Fel prif noddwr Cynhadledd Arddangos 2008, byddai eich sefydliad yn dangos ei ymrwymiad i gefnogi ein gwaith. I gydnabod yr ymrwymiad hwn, bydd nifer o fanteision i'ch sefydliad, gan gynnwys y canlynol :

Cinio'r Gynhadledd : £5,000 + TAW

Mae Cinio'r Gynhadledd yn rhan boblogaidd o'r digwyddiad a bydd mwyafrif y mynychwyr a nifer o bobl broffesiynol allweddol a gwesteion gwadd yn ei fynychu. Mae'r buddion yn cynnwys :

Derbyniad Diodydd cyn y Cinio : £2,500 + TAW

Mae cyfle i noddwr ddarparu diodydd a canap&ecute;s cyn y Cinio ar nos Fercher 18 Mehefin. Byddai'r buddion yn cynnwys :

Costau amlinellol isod – gellir cyd-drafod y manylion terfynol gyda'r arlwywyr ar ran y noddwr.

Adloniant : £1,000 + TAW

Bydd cerddoriaeth fyw yn ystod y derbyniad a'r cinio, a bydd disgo i ddiweddu'r noson. Gellir noddi adloniant y noson gyda'r buddion canlynol :

Noddi Bwrdd : £500 + TAW

Bydd oddeutu 25 bwrdd o 10 gwestai. Byddai noddi bwrdd yn cynnig :

Cynigir pecyn UNIGRYW i'r Prif Noddwr ar gyfer y Derbyniad Diodydd, Adloniant a Chinio'r Gynhadledd am £15,000 + TAW

Arddangosfa Bosteri : £2,500 + TAW

Bydd yr arddangosfa bosteri wedi'i lleoli yn y Neuadd Ymgynnull a ddefnyddir ar gyfer yr holl sesiynau llawn a Chinio'r Gynhadledd.

Pecyn i Fynychwyr : £1,500 + TAW

Bwriedir darparu pecyn neu fag i bob mynychwr wrth iddynt gofrestru yn y digwyddiad. Bydd y pecyn yn cynnwys deunydd perthnasol ar gyfer y Gynhadledd a chaiff ei ddefnyddio felly drwy gydol y digwyddiad. Mae cyfle i noddi'r pecyn / bag ac arddangos logo'r noddwr arno. Byddai'r noddwr yn cael gosod un eitem o lenyddiaeth neu nwyddau yn y pecyn.

Noddi Gweithdy : £1,000 + TAW

Mae cyfraddau gostyngol ar gael am noddi mwy nag un ystafell gweithdy Bydd cyfanswm o 36 o weithdai hanner awr yn cael eu cynnal yn ystod y digwyddiad deuddydd, gyda chwe slot amser a chwe gweithdy'n rhedeg yn gydamserol ym mhob slot. Mae hyn yn golygu y caiff pob mynychwr gyfle i fynychu pob un o'r chwe gweithdy a chael gweld brandio noddwr ym mhob ystafell.

Cynigir cyfle i noddi pob un o'r chwe ystafell gweithdy ac mae'r buddion yn cynnwys :

Lle Arddangos : £750 + TAW

Yn amodol ar argaeledd a'r ymateb i'r cynigion noddi, mae'n bosibl y bydd lle yn y Neuadd Farmor ar gyfer arddangosiadau bach i ganolig eu maint (neidfyrddau). Byddai arddangoswyr hefyd yn cael gosod un eitem o lenyddiaeth ar Stondin Lyfrau'r Gynhadledd. Noder yr argymhellir archebu'n gynnar am fod lle yn gyfyngedig.

Gwybodaeth i Fynychwyr : £250 + TAW

Gellir cynnwys nifer cyfyngedig o dudalennau gwybodaeth un dudalen (A4) yn y pecyn i fynychwyr. Gellir cyd-drafod prisiau i gynnwys taflen fach neu eitem fasnachu fach.

Stondin Lyfrau'r Gynhadledd : £150 + TAW am un eitem

Bydd bwrdd a / neu reseli llenyddiaeth wrth ymyl y brif ddesg gofrestru / ymholiadau a fydd ar agor drwy gydol y digwyddiad. Cynigir cyfraddau gostyngol ar gyfer mwy nag un eitem.