Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2008
CYMRU A'R BYD
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
18 - 19 Mehefin 2008
LLEOLIAD
Ffôn: 02920 871727
Ebost: cityhall@cardiff.gov.uk
Gwefan: www.cardiff.gov.uk/cityhall
Lleoliad
Mae Neuadd y Ddinas, Caerdydd wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas, o fewn pellter cerdded amrywiaeth eang o westai, canolfan siopa ragorol, Castell Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm ac Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 19km (12 milltir) i ffwrdd a lleolir Hofrenfa Caerdydd 6km (4 milltir) ar draws y ddinas. Mae gorsafoedd trenau a bysiau canolog Caerdydd o fewn ychydig funudau ar droed o Neuadd y Ddinas.
Gyda thaith o 2 awr yn unig o Lundain neu Birmingham, mae Caerdydd yn lleoliad hygyrch iawn.
Parcio
Mae parcio ar gael ar rodfeydd y Ganolfan Ddinesig o amgylch Neuadd y Ddinas. I barcio yn y baeau hyn bydd angen i chi brynu tocyn Talu ac Arddangos o un o'r peiriannau a leolir ar ymyl y ffordd.
Fel arall, mae parcio ar gael mewn Meysydd Parcio NCP o amgylch Caerdydd (WWW.NCP.CO.UK). Y rhai agosaf i Neuadd y Ddinas ac sydd o fewn pellter cerdded yw:
- NCP Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd CF10 3AD
- NCP Plas Dumfries, Heol y Cei, Caerdydd CF10 3FN
