Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2010
LLEWYRCH Y LLUSERN YNG NGHYMRU
Gwesty a Sba Mercure Holland House Caerdydd
Dydd Iau 13eg a dydd Gwener 14eg Mai 2010
Mae 2010 yn dynodi canmlwyddiant ers marwolaeth Florence Nightingale a bydd llawer o ddigwyddiadau coffaol yn cael eu cynnal o amgylch Mai 12fed, nid yn unig ar draws y DU ond yn y byd ehangach i ddathlu ei bywyd a’i chyflawniadau.
Bydd y dathliadau Canmlwyddiant yn cael eu harwain gan Sefydliad Florence Nightingale. Eu nod yw bod yn gofeb fyw i Florence Nightingale drwy hyrwyddo rhagoriaeth ym maes nyrsio a datblygu’r astudiaeth o nyrsio.
Mae Sefydliad Florence Nightingale yn codi arian i ddarparu ysgoloriaethau ar gyfer nyrsys a bydwragedd i astudio adref a thramor, i hyrwyddo arloesedd o ran arfer ac i ehangu gwybodaeth a sgiliau i ddiwallu anghenion sy’n newid. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu un ysgoloriaeth o’r fath yn flynyddol drwy’r Sefydliad ond mae nyrsys o Gymru wedi sicrhau ysgoloriaethau’n rheolaidd a gynigwyd gan gymwynaswyr eraill hefyd. Dros y blynyddoedd, yr ydym wedi sicrhau rhestr sylweddol o Ysgolheigion o Gymru sydd wedi ymweld a chyfleusterau iechyd ledled y DU, yn ogystal ag Ewrop, UDA ac Awstralia, gan astudio amrywiaeth eang o bynciau - o nyrsys yn rhagnodi ym maes iechyd meddwl, i labordai sgiliau pedriateg; o edrych ar lety rhyw sengl i raglenni arwain pwrpasol. Mae eu gwaith yn hynod o ddiddorol ac yn ysbrydoledig.
Er mwyn arddangos gwaith Ysgolheigion Florence Nightingale o Gymru yn benodol ac i hyrwyddo gwaith y Sefydliad i nyrsys eraill a allai fod yn ystyried parhau gyda’u hastudiaethau drwy ddulliau o’r fath, Mae Cynhadledd Arddangos Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi’i neilltuo’n llwyr i’r achos hwn.
Mae’r gynhadledd hon ar gyfer pob nyrs a bydwraig, beth bynnag fo’u swyddogaeth ac ar bob lefel o’u gyrfa, i ddod draw a chael eu hysbrydoli gan y cyfleoedd dysgu y mae eu cydweithwyr wedi’u cael.



