Cynhadledd ARDDANGOS Prif Swyddog Nyrsio Cymru 2010
LLEWYRCH Y LLUSERN YNG NGHYMRU
Gwesty a Sba Mercure Holland House Caerdydd
Dydd Iau 13eg a dydd Gwener 14eg Mai 2010
Rhai a Gadarnhawyd fel Noddwyr i’r Gynhadledd
Mae’r cwmniau canlynol yn cefnogi Cynhadledd Arddangos eleni - Goleuo’r Llusern yng Nghymru.
Boehringer Ingelheim
Grwp Boehringer Ingelheim yw un o 20 prif gwmni fferyllol yn y byd. Gyda’i bencadlys yn Ingelheim, yr Almaen, mae’n gweithredu’n fyd-eang gyda 138 o gwmniau cysylltiedig mewn 47 o wledydd a 41,300 o weithwyr. Ers iddo gael ei sefydlu yn 1885, mae’r cwmni annibynnol, sy’n eiddo i deulu, wedi ymrwymo’i hun i ymchwilio, datblygu, cynhyrchu a marchnata cynnyrch newydd o werth therapiwtig uchel ar gyfer meddygaeth ddynol a milfeddygaeth.
Yn 2008, fe dderbyniodd Boehringer Ingelheim werthiannau net o 11.6 biliwn ewro gan wario pumed ran o’r gwerthiannau net yn ei segment busnes mwyaf, Meddyginiaethau Presgripsiwn, ar ymchwil a datblygu.
SECA
Mae llawer o ofynion amrywiol i bwyso i ddibenion gofalu am gleifion. Boed yn gloriannau babanod neu’n gloriannau arbennig pwrpasol ar gyfer cleifion gordew, mae gan seca ateb i’w gynnig. Bydd amrywiaeth o gloriannau digidol ar gyfer oedolion a chloriannau babanod ynghyd a detholiad o beiriannau ECG yn cael eu harddangos ar stondin seca.
Y Brifysgol Agored
NEWYDDION SY’N TORRI - Bydd y Brifysgol Agored yn lansio ei radd nyrsio cyn-cofrestru yng Nghymru yn 2011/2012, i adeiladu ar ei rhaglenni cyn-cofrestru nodedig ledled y DU. Mae’r Brifysgol Agored wedi cael ei graddio fel prifysgol orau Cymru mewn arolygon gan y llywodraeth dros y pum mlynedd ddiwethaf. Cysylltwch a k.p.pascoe@open.ac.uk am fwy o fanylion ar raglenni nyrsio.
Prifysgol Morgannwg

Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal yn cynnig amrywiaeth helaeth o ddyfarniadau hyblyg o lefel Diploma i Ddoethuriaeth, gan alluogi myfyrwyr i astudio ar eu cyflymdra eu hunain. Mae addysgu’n cael ei atgyfnerthu gan ymchwil ac mae gan y gyfadran enw da cynyddol am ei ymchwil arloesol mewn gofal iechyd. Yn Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008 cafodd llawer o’n hymchwil ei gydnabod fel ymchwil ac iddo ddylanwad rhyngwladol.
Ymwelwch a’n gwefan www.glam.ac.uk/hesas
Diversey

Mae Diversey yn un o’r prif gwmniau sy’n darparu cynnyrch glanhau a hylendid i’r diwydiant gofal iechyd. Rydym wedi denu llu o bobl brofiadol i greu atebion arloesol ar gyfer glanhau domestig, rhwystro afiechyd, golchi dillad, gofalu am loriau, arlwyo a hylendid dwylo.
Ffoniwch ein Tim Gofal Cwsmeriaid heddiw yn ddi-dâl ar: 0800 525 525
GlaxoSmithKline

Mae GlaxoSmithKline, un o brif gwmnïau fferyllol a gofal iechyd y byd, sy’n seiliedig ar ymchwil, yn ymrwymedig i wella ansawdd bywyd drwy alluogi pobl i wneud mwy, teimlo’n well a byw’n hirach.
Mae’r cwmni’n ymchwilio i feddyginiaethau a brechlynnau ac yn eu datblygu, eu cynhyrchu a’u marchnata er mwyn rhwystro a thrin nifer o afiechydon mwyaf y byd.
Rydym yn ymroddedig i chwarae rhan flaenllaw i wella gofal iechyd yn y byd datblygedig.
Gwneud mwy
Teimlo’n well
Byw’n hirach
Prifysgol Caerdydd

Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Prifysgol Caerdydd
Mae Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Prifysgol Caerdydd yn gyfle unigryw i nyrsys a bydwragedd ymestyn eu datblygiad personol a phroffesiynol drwy astudiaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn prifysgol sy’n un o’r Russell Group. Cynigir amrywiaeth eang o ddyfarniadau o dystysgrifau i ddoethuriaeth. Mae gan yr Ysgol enw da am ymchwil ac addysgu ac mae ganddi gysylltiadau agos ag ymarfer clinigol a chymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan yn: www.cardiff.ac.uk/nursing
Medi UK

Mae Medi, prif gynhyrchydd y byd ym maes nwyddau cywasgu meddygol ar gyfer lymffoedema a chlefydau gwythiennol, yn canmol llwyddiannau Ysgolorion Florence Nightingale o Gymru. Mae Addysg a Hyfforddiant yn sail i bopeth wnawn yn Medi ac mae cyrsiau teilwredig ar gael ar bob lefel yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rhif ffôn: 01432 373500
E-bost: enquiries@mediuk.co.uk
Gwefan: www.mediuk.co.uk
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Darparu gwasanaethau gwybodaeth diogel sy’n hanfodol i drawsnewid gofal yng Nghymru:
Gwella diogelwch cleifion a lleihau niwed.
Rhoi gwasanaethau gwybodaeth modern i staff i’w helpu i wneud eu gwaith.
Lleihau gwastraff a chwtogi ar gostau drwy wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau a chydweithio.
Sicrhau seilwaith technegol dibynadwy.
Mae rhai cyfleoedd i noddi ar gael o hyd. Os hoffech gefnogi cynhadledd Arddangos y Prif Swyddog Nyrsio cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn darparu addysg academaidd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn rhedeg y Ganolfan Ymchwil Cysylltiedig ag Iechyd, sydd ag enw da rhyngwladol am gynnal ymchwil o ansawdd uchel. Mae Canllaw Prifysgolion y Guardian wedi sgorio'r Ysgol ymysg y gorau yn y DU.
Ewch i'n gwefan: www.bangor.ac.uk/healthcaresciences
Noddi’r Gynhadledd
Mae hwn yn gyfle unigryw i arddangos eich sefydliad a dangos swyddogaeth bwysig ein partneriaid wrth iddynt gefnogi gwaith y gwasanaethau nyrsio yng Nghymru, er enghraifft drwy:
- Brandio: logos / cydnabyddiaeth ar lenyddiaeth gysylltiedig, deunydd i gynrychiolwyr, arwyddion a llwyfannau
- Gwelededd uchel: Bydd eich arddangosfa mewn lleoliad amlwg drwy’r digwyddiad cyfan
- Gwasanaeth mynd gyda chi: Y cyfle i roi deunydd ym mhecyn y cynrychiolwyr neu ar Stondin Lyfrau’r Gynhadledd a fydd wedi’i lleoli’n agos i’r ddesg gofrestru / gwybodaeth
Darperir enghreifftiau o gyfleoedd noddi, fodd bynnag, os bydd gan eich sefydliad ofynion penodol byddem yn croesawu’r cyfle i drafod pecyn wedi’i deilwra a fyddai’n diwallu eich anghenion.
Noddwr Amlwg: £12,000 + TAW
Fel un o noddwyr amlwg Cynhadledd Arddangos 2010, byddai eich sefydliad yn dangos ei ymrwymiad i gefnogi ein gwaith. I gydnabod yr ymrwymiad hwn, rhoddir nifer o fuddiannau i’ch sefydliad, yn cynnwys:
- Logo ar arwyddion y lleoliad, ar y llwyfan, cyflwyniadau gweledol a gwefannau perthnasol
- Gofod arddangos mewn ardal o’ch dewis (maint yn dibynnu ar yr ardal a ddewiswyd)
- Brandio ar becyn / bag cynrychiolwyr (oni fydd yr eitem hon yn cael ei noddi’n annibynnol)
- Y cyfle i gynnwys llenyddiaeth neu nwyddau ym mhecyn y cynrychiolwyr
- Lle i 6 gwestai yn Swper y Gynhadledd
- Logo ym mwydlen y Swper
- Slot i siaradwr o fewn y Gynhadledd (neu yn eich cyfarfod ymylol eich hun).
- Cyfleoedd rhwydweithio drwy’r digwyddiad cyfan
- Cydnabyddiaeth mewn nodyn ‘diolch i’n noddwyr’ yn y pecyn i gynrychiolwyr
Swper y Gynhadledd: £5,000 + TAW
Mae Swper y Gynhadledd yn un o agweddau poblogaidd y digwyddiad a bydd y mwyafrif o’r cynrychiolwyr a nifer o bobl broffesiynol allweddol a gwesteion yn ei fynychu. Ymhlith y buddiannau mae:
- Logo ar arwyddion y Swper
- Logo ac erthygl fer yn y fwydlen
- Hawliau Nwyddau yn y Swper
- Cyfle i siarad yn y Swper
- Lle i 4 gwestai yn y Swper
- Gofod arddangos mewn ardal o’ch dewis (maint yn dibynnu ar yr ardal a ddewiswyd)
- Cyfleoedd rhwydweithio drwy’r digwyddiad cyfan
- Cydnabyddiaeth mewn nodyn ‘diolch i’n noddwyr’ yn y pecyn i gynrychiolwyr
Adloniant: £1,000 + TAW
Darperir cerddoriaeth fyw yn ystod y derbyniad a’r swper, a chynhelir disgo i gloi’r noson. Gellir noddi adloniant y noson, gyda’r buddiannau canlynol:
- Cydnabyddiaeth ym mwydlen y Swper
- Lle i 2 westai yn y Swper
- Cydnabyddiaeth mewn nodyn ‘diolch i’n noddwyr’ yn y pecyn i gynrychiolwyr
Noddi Bwrdd: £500 + TAW
Bydd tua 25 o fyrddau gyda 10 gwestai ar bob un. Byddai noddi bwrdd yn cynnig:
- Logo/enw’r noddwr ar gerdyn (rhif) y bwrdd
- Y cyfle i roi un eitem o lenyddiaeth neu nwyddau ar y bwrdd a noddwyd
- Lle i 1 gwestai ar y bwrdd
- Cydnabyddiaeth mewn nodyn ‘diolch i’n noddwyr’ yn y pecyn i gynrychiolwyr
Pecyn Cynrychiolwyr: £1,500 + TAW
Cynigir y rhoddir pecyn neu fag i bob cynrychiolydd wrth iddynt gofrestru yn y digwyddiad. Bydd y pecyn yn cynnwys deunydd perthnasol y Gynhadledd a gellir ei ddefnyddio drwy’r digwyddiad cyfan. Mae’r pecyn / bag ar gael i’w noddi a gallai gynnwys logo’r noddwr. Byddai’r noddwr yn cael rhoi un eitem fach o lenyddiaeth neu nwyddau yn y pecyn.
Gwybodaeth i Gynrychiolwyr: £200 + TAW
Gellir cynnwys nifer gyfyngedig o daflenni gwybodaeth tudalen unigol (A4) yn y pecyn i gynrychiolwyr. Gellir trafod y prisiau ar gyfer cynnwys taflen fach neu eitem fach o nwyddau.
Os oes diddordeb gennych yn unrhyw un o’r cyfleoedd noddi neu arddangos cysylltwch a ni cyn gynted a phosibl i drafod y trefniadau. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar y dudalen cysylltu â ni.


